10:00 – 13:00
I oedrannau 14+
Ymunwch â Lowri Hedd Vaughan ac Angela Davies am weithdy creadigol i archwilio.
Mae ogofâu môr yn archifau ac mae halen yn gadwraethwr amser. Byddwn yn defnyddio'r elfennau cylchol hyn i fyfyrio a sgwrsio gyda'r dyfodol.
Rydym yn chwilio am straeon / atgofion / profiadau halen lleol sy'n gysylltiedig ag arfordir Pen Llŷn. Dewch â straeon neu arteffactau i'w rhannu ac ymunwch â ni mewn ysgrifennu myfyriol a thaith gerdded fer.
Dewch â dillad addas a chynnes sy’n dal dŵr.
Mae elfen cerdded y gweithdy hwn yn ddibynnol ar y tywydd, os yw'r tywydd yn rhy wael, gallwn gynnal y sesiwn gyfan dan do.
Archebwch
Tocynnau £5.00