Gweithdy Gwneud Nwdls

Amser: 16:30-21:00
Lleoliad: Nwdl, Abersoch
Tocynnau: £20 y person

 

Ymunwch â ni ar gyfer cyfarfod arbennig Coed Coexist: noson o greu nwdls, cyfnewid diwylliannol, a rhanu bwyd yn Nwdl, Abersoch. Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys Togo Miyashita, artist coed ifanc sy'n ymweld â ni o Japan, a'r drydedd genhedlaeth o Kurumaya, bwyty soba enwog yn Tokyo. 

Mae Togo ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn y prosiect cyfnewid artistiaid Coed Coexist, a gynhelir ac a ariannir gan Plas Glyn-y-Weddw mewn cydweithrediad â John Egann a Junko Mori.

Drwy gydol y nos, bydd Togo a Junko yn dangos y grefft o greu soba, udon, a nwdls ramen. Bydd cyfranogwyr wedyn yn cael cyfle i ymgymryd â chreu nwdls udon ei hunain, a fydd yn cael eu coginio a'u mwynhau gyda danteithion parod gan Junko, Togo, a chynrychiolwyr bwyty Nwdl, Owen a Dave. 

*Oherwydd y cynhwysedd, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan yn y camau olaf o'r grefft, yn hytrach na dilyn y broses o’r dechrau i’r diwedd.

Mae'r cwrdd hwn yn anelu at gysylltu cymuned Coed Coexist â'n hartist preswyl sy'n ymweld â ni o Japan bell tra'n cynnig cyfle i ddysgu am wneud nwdls traddodiadol a chyfnewid syniadau mewn lle cyfforddus, cymunedol.

Mae'r Tocyn yn cynnwys:

• Demos o wneud nwdls (ramen, udon, soba)

• Cyfle ymarferol i wneud udon mewn grwpiau

• Powlen o udon fres gyda cawl + thopiau

• Pwdin

• PDF o'r holl ryseitiau

Mae diodydd ar gael i'w prynu o'r bar.

Alergeddau / Dietegol:

Ni allwn ddarparu ar gyfer alergeddau bwyd. Bydd brothau/topiau llysieuol a feganaidd ar gael.

Dewch ag:

• Eich bowlen nwdls eich hun

• Ffedog (dewisol)

 

Gweithdy Creu Nwdls Noodle Making Workshop Instagram Post 45
Archebwch

Tocyn £20.00