Gweithdy Celf a Natur teuluoedd

28+30/10 - 10am 

Sesiwn trwy’r dydd yn cael ei arwain gan Rob Parkinson o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r artist Sioned Medi Evans, mewn cydweithrediad rhwng Plas Glyn-y-Weddw ac Ecoamgueddfa Llŷn, yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru

Mi fydd sesiwn bore yn cynnwys cyflwyniad byr yn y Plas am y casgliad porslen Abertawe a Nantgarw sydd wedi’i leoli yn y Plas. Yna mi fydd taith gerdded o gwmpas y Winllan a’r traeth dan arweiniad Rob Parkinson, gan drafod y planhigion a’r creaduriaid a fydd i'w gweld yn ystod y daith a chynnal gweithgareddau. 

Bydd cinio yn cael ei ddarparu yn ystod o’r diwrnod – cysylltwch trwy ebostio post@oriel.org.uk os oes ganddoch unrhyw anghenion dietegol 

Mae croeso i chi ddod a pecynau bwyd eich hunain os y dymunwch.

Yn dilyn seibiant i ginio, cynhelir gweithdy celf gyda'r artist Sioned Medi Evans wedi'w ysbrydoli gan daith gerdded y bora ac hefyd yn dathlu casgliad porslen Abertawe a Nantgarw sydd yn cael eu harddangos yn y Plas. Cyfle i ddod a lliw, gwead a chyfoeth natur at ei gilydd drwy ddefnyddio collage a darlunio. 

Mae’r gweithgareddau yn addas i blant 5+ oed ond mae croeso i blant iau ymuno, os ydi y rhieni/gwarcheidwaid yn fodlon. 

Mae’n rhaid archebu lle fesul person/pletyn (5+ oed) i sicrhau niferoedd. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â menna@oriel.org.uk 

Archebwch Nawr

Gweithdy Celf a Natur teuluoedd