Ymunwch â’r artist Angela Davies cyn ei harddangosfa haf yn y Plas wrth iddi wahodd pobl i ddod i rannu straeon personol ynghyd a rhai mwy cyffredinol am y môr, yn enwedig hanes Pen Llŷn a’i dreftadaeth bysgota, ynghyd a straeon morwrol eraill sy’n gysylltiedig â’r ardal. Fe fyddai Angela wrth ei bodd yn cael gweld hen fapiau, rhwydi a gwrthrychau eraill a chael sgwrsio amdanynt, yn enwedig rhai sydd yn gysylltiedig â physgota penwaig, eu halltu ac ati. Bydd gan Angela arddangosfa o’i gwaith yn y Plas yn ystod yr haf.
ARCHEBWCH
Sgwrs gyda Angela Davies 'Halen' / Gweithdy 'Synhwyrau Gwymon' gyda Kirsti Davies