Cranogwen

Morwres. Ysgolfeistres. Bardd. Darlithydd. Pregethwr. Golygydd. Ymgyrchydd. Ffrind.

Mewn oes pan oedd disgwyl i ferched eistedd adref yn gwnio’n dawel fe gymerodd y ferch arbennig hon lwybr gwbl wahanol i’w chyfoedion. Yn 26 oed roedd wedi cael ei chadeirio yn fardd, er syndod mawr i bob un dyn a gystadlodd, a hynny am ysgrifennu cerdd am briodas er na phriododd hi erioed ei hun. Daeth Sarah Jane Rees yn enwog nid yn unig yng Nghymru ond ym mhrif ddinasoedd Lloegr ac America. Ond eto ar ôl yr holl deithio a’r areithio dod yn ôl i’w milltir sgwar fyddai hi bob tro - i Langrannog. Pam tybed? Dyma sioe am ferch unigryw, amryddawn ac annisgwyl. Dyma hanes Cranogwen.

Archebwch nawr

Cranogwen