Gwlad yr Asyn 17.8.21

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr, mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Gwlad yr Asyn

gan Wyn Mason

Nid asyn cyffredin ’mo Ari; cafodd ei magu ar aelwyd glyd gan hen wraig garedig. Ond â hithau bellach yn byw ar fferm asynnod rhywle yng Ngorllewin Cymru, mae hi’n dyheu am gael byw eto ymhlith pobl. Wedi iddi gael ei phrynu gan berchennog newydd, mae cyfeillgarwch annisgwyl yn tyfu rhyngddi hi a rebel o asyn afreolus, ac yn sydyn daw’n ymwybodol o’i chaethiwed.

Pan ddaw cyfle i ddianc, tybed a fydd Ari’n mentro drwy’r glwyd agored a mynnu ei rhyddid? Neu a fydd blynyddoedd o wasaidd-dra a chysur ymhlith ei gormeswyr yn ei dal yn ôl?

Wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, a gyda cherddoriaeth fyw, dyma gynhyrchiad newydd, llawn hiwmor, dychan a chân, i brocio a swyno cynulleidfaoedd yn yr awyr agored yr haf hwn.

Canllaw Oed: 13+

Sibrwd

Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn y Gymraeg. Trwy gyfrwng llais yn y glust, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau personol.

Prynnwch Nawr

Gwlad yr Asyn 17.8.21