Canrif o Ganeuon Cymreig

Fel rhan o'r 3edd gynhadledd rhyngwladol drwy Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor ar waith 'merched mewn cerddoriaeth', mi fu Sioned Terry ac Iwan Llewelyn-Jones yn rhoi datganiad yn seliedig ar weithau Grace Williams, Morfydd Owen, Dilys Elwyn Edwards a Rhian Samuel. Roedd yn braf ei weld yn cael ymateb ffafriol tu hwnt a cafodd ei ddarlledu dros 9 cyfandir! Bwriad y datganiad oedd i daflu golau ar rai o'r perlau cuddedig yma ac i greu ymwybyddiaeth o'n cyfansoddwyr benywaidd ni fel cenedl. Maent nawr yn bwriadu mynd a'r caneuon dros gymaint o leoliadau a phosib, gan gynnwys Oriel Plas Glyn-y-Weddw - dewch yn llu!

£15

Tocynnau / Tickets