Rachel Porter - Bydoedd Bach

Y bydoedd bach sydd o’i chwmpas sydd wedi ysbrydoli Rachel Porter yn hon, ei harddangosfa unigol gyntaf. Mewn gwaith dyfrlliw cywrain mae Rachel yn tynnu sylw at y planhigion cyffredin wrth ei thread yn ogystal â’r pryfetach a’r adar sy’n creu cynefinoedd arbennig Pen Llŷn ac Enlli.

Wrth dynnu ein sylw at y manylion sy’n creu’r bydoedd bach cyfoethog hyn mae Rachel yn llwyddo i ddathlu eu harddwch tra hyfyd yn pwysleisio breuder byd natur.