Lle

I gyd-fynd â'r arddangosfa o waith Gillian Ayres, rydym wedi dwyn ynghyd ddetholiad o naw o artistiaid sy’n arddangos yn gyson ym Mhlas Glyn-y-Weddw y mae eu gwaith yn archwilio ac yn mynd i'r afael â syniadaeth 'lle'

Adam Buick; Judith Hay, Peter Kettle, Elfyn Lewis, Janie McLeod; Eleri Mills; Luned Rhys Parri; Lisa Eurgain Taylor a Wil Rowlands

Bu Gillian Ayres yn byw ym mhentref Llaniestyn yn Mhen Llŷn rhwng 1981 a 1987, cyfnod lle’i gwelwyd yn cynhyrchu peth o'i gwaith mwyaf bywiog a diddorol. Dywedodd fod paentio yn bodoli “i gyfleu a mynegi ein cyflwr aruchel, ein ffrwydrad llachar mewn gofod.” Er nad oedd Ayres yn paentio dehongliadau llythrennol o’r tirlun, cyfaddefodd bod ei hymweliadau mynnych â mynyddoedd gogledd Cymru o'r 1950au ymlaen yn gwneud iddi ddechrau “gweld y byd fel paentio... Pan aech chi fyny mynydd byddai’r cymylau yma’n dod lawr. Roedd rhywun wir yn dechrau gweld popeth mewn paent.”

Fel Ayres mae'r naw artist sydd yma yn tynnu ar reddf wrth greu eu gwaith. Mae lleoedd a phrofiadau cyffredin yn ennyn teimladau o'r isymwybod; megis yng ngwaith Elfyn Lewis neu Janie McLeod lle mae sythwelediad yn arwain at farciau a lliwiau haniaethol, neu wrth ail-greu cymeriadau cyfarwydd wedi'u gwreiddio yn y cof, fel yng ngwaith Luned Rhys Parri a Judith Hay. Mae llinellau diffiniedig yn eich tynnu i mewn i dirluniau breuddwydiol Eleri Mills tra bod mynyddoedd mawreddog Lisa Eurgain Taylor yn cael eu cyfleu gyda'r marciau mwyaf ysgafn. Mae Wil Rowlands yn dilyn ei gymhelliad i greu naratifau, pob un fel gem lachar, tra mae tirluniau Peter Kettle wedi'u gwreiddio mewn atgofion am olygfeydd sy’n adnabyddus ac annwyl i ni gyd. Mae jariau lleuad Adam Buick wedi'u gwreiddio'n llythrennol, i'r ddaear o'i gwmpas, wrth iddo gasglu deunyddiau i'w cynnwys ynddynt wrth eu tanio. Yr edau cyffredin sy’n gynhenid iddynt i gyd yw'r wybodaeth a'r emosiwn tuag at le.

Yn aml mae teitlau'n cael eu symbylu gan y gwaith, megis gyda Enlli neu Rhosydd gan Lewis, ac er eu bod yn awgrymol o leoedd penodol, nid ydynt yn gynyrchioliadau uniongyrchol. Gwahoddir y gwylwyr i deimlo eu hymatebion emosiynol eu hunain i'r gwaith, fel gyda paentiadau Ayres.

Cwblhawyd Patria (mamwlad) gan McLeod tra i ffwrdd yn yr Eidal, ac er iddi gael ei hysbrydoli gan brofiad lle oedd yn ddieithr iddi, daeth yn ymateb emosiynol i dynfa’r cartref; y catalydd creadigol i lawer o'r gwaith yma gan brofi bod dirnadaeth lle yn fater pwerus iawn gyda pherthnasedd cyfoes.


Delwedd: Cân y Gwneuthurwr Mapiau I, Eleri Mills