Llun artist sioned

 

Mae Sioned Medi Evans yn ddarlunydd llawrydd llawn amser, yn gweithio ar brosiectau creadigol sydd yn amrywio o lyfrau llun a stori plant i weithdai celf a lles. Yn ddiweddar mae Sioned wedi dychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau fel artist a dylunydd tecstiliau. Graddiodd o Goleg Celf Manceinion yn 2016 gyda Gradd Dosbarth cyntaf mewn Tecstiliau, gan arbenigo mewn gweu.

Mae'n ymddiddori mewn lliw, a’r berthynas rhwng lliwiau sydd yn ysgogi ei gwaith, ynghyd a’r cariad tuag at ymdrin â strwythurau a siapiau, sydd gyda’i gilydd yn creu cyfansoddiadau newydd a chyffrous. Wrth ddefnyddio gweu fel celfyddyd i ymchwilio posibiliadau di-ben-draw lliw a dylunio, tra hefyd yn arbrofi gyda’r toreth o wahanol ffurfiannau, mae Sioned yn llwyddo i lunio darnau cyfoes gyda naws gyfarwydd.

 

Y GWAITH

Gwaith SME 7

 

Gan ganolbwyntio ar ryngweithiadau ac ymyriadau lliw, mae casgliad Sioned o ddarnau wedi’u gwau yn cyflwyno agwedd gyfoes ar gelfyddyd draddodiadol. Mae hi'n gweld y gwaith fel man cychwyn ar gyfer archwilio lliw a ffurf, trin a symud siapiau, a’r broses ailadroddus fel cyflwr myfyriol. Mae'r artist yn gweld gweu fel dawns, mae yna rhythm a dirgryniad tawel iddo; mae symudiad y creu yn dynwared y dyluniad, yr ailadrodd yn y broses yn efelychu’r canlyniad.

Gwneir y dyluniadau gan ddefnyddio llinellau glân a manwl, ond rhoddir gorau i'r egwyddorion hyn wrth eu trawsnewid yn ddarnau wedi'u gwau. Caniateir i'r ffabrig greu ei siâp a'i ffurf ei hun, nid yw’r rheolaeth bellach yn nwylo’r dylunydd, gan roi ystyr a bywyd newydd i'r gwaith.

Mae'r paled liw cyfyngedig yn caniatáu i'r gynulleidfa weld sut mae lliwiau penodol yn cael eu gweld mewn gwahanol gyfansoddiadau, ac mae'r defnydd o edafedd mohair yn creu llinellau aneglur, tra bod y gwlân yn llwyddo i ffurfio llinellau diffiniedig. Cyflwynir rhaniadau cynnil i greu tensiwn penodol; fel gwthio a thynnu magnetig a chydbwysedd rhwng llinellau a gofod gwag.

 

Gwaith SME 4

 

@s__m__e__i

www.sionedmediillustration.co.uk