Ym mis Medi, gwnaeth aelodau o BÔN (cynulliad o artistiaid ifanc o Ben Llŷn) — Anna Higson, Chris Higson, Iwan Lloyd Roberts, Sioned Medi Evans, a Zoe Lewthwaite — gymryd rhan mewn preswyliad wythnos ar Ynys Enlli.
Gyda chefnogaeth Cronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd, rhoddodd y breswylfa hon amser a lle ar gyfer ymchwil artistig, arbrofi a chydweithio. Gan weithio'n agos gyda’i gilydd, datblygodd yr artistiaid ymatebion unigol a chyfunol wedi’u lunio gan dirwedd, awyrgylch a hanes hynafol yr ynys, gan roi sylw manwl i ddeunyddiau a phrosesau.
Mae'r arddangosfa hon yn ffurfio cofiant o'u hamser ar Ynys Enlli - casgliad o ganfyddiadau, myfyrdodau a gweithiau newydd wedi’u datblygu o brofiadiau ar yr ynys. Gyda'i gilydd, mae'r gweithiau'n olrhain prosesau arsylwi, deialog a chreu, gan gynnig cofnod cyfunol o ymgolli yn rhythmau a phresenoldeb yr ynys.