£4,732 wedi'i godi ar gyfer Cronfa Gymorth Anna Roberts

Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn ym Mhlas Glyn-y-Weddw ar ddydd Mawrth y 26ain o Awst pan ddaeth Anna Roberts a'i theulu o Sarn Mellteyrn draw i'n gweld. Mae Anna yn dioddef o Glefyd Batten CLN3

Ar y 5ed o Orffennaf cynhaliwyd cyngerdd arbennig gan Gôr y Brythnoniaid yn theatr awyr agored Plas Glyn-y-Weddw. Yn ystod yr egwyl cynhaliwyd arwerthiant a raffl arbennig i godi arian at Gronfa Gymorth Anna. Diolch i haelioni llawer o bobl, gan gynnwys rhoddion arbennig ar gyfer yr arwerthiant gan yr Arglwydd Mervyn ag Arglwyddes Jeanne Davies o Abersoch, codwyd cyfanswm anhygoel o £4,732 ar y noson. 

Yr wythnos hon daeth Anna draw i'r Plas i'n cyfarfod, gyda'i mam Laura Roberts a'i modryb Llinos Roberts. Cyflwynwyd siec i'r gronfa gan John Eifion Jones (arweinydd Côr y Brythnoniaid) a Gwyn Jones (Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw). Bydd yr arian a gyflwynir yn cyfrannu at ymgyrch gan y teulu i brynu cadair drydan arbennig i Anna.

yn y llun: Anna Roberts, John Eifion Jones, Laura Roberts (Mam), Gwyn Jones, Llinos Roberts (Modryb)