Eisteddfod Genedlaethol 2025

Eisteddfod Genedlaethol 2025

Rydym yn hynod falch o dderbyn Plac Teilyngdod Pensaerniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. 

Mae Plac Teilyngdod yr Eisteddfod yn dathlu prosiectau newydd neu adnewyddu sy’n dangos dyluniad eithriadol. 

Ym marn y detholwyr:

“Mae’r cydweithrediad rhwng ffurf gain y caffi Draenog y Môr, a grëwyd gan artist, a’r cynllun pensaernïol pragmatig wedi arwain at adeilad newydd cynaliadwy ac effeithlon sy’n ymateb i gyd-destun, ymdeimlad o le, ac anghenion defnyddwyr ac ymwelwyr – gan gynnig marciwr gweledol newydd i’r ganolfan.”

Yn ogystal, canmolodd y detholwyr ymddiriedolwyr Plas Glyn-y-Weddw "am y modd maent wedi datblygu y ganolfan yn strategol dros y 15 mlynedd diwethaf i sefydlu canolfan gelfyddydau gynaliadwy a bywiog".

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 2il Awst i Mark Wray, Seb Walker (Penseiri), Matthew Sanderson (Cerflunydd a Chynllunydd y caffi) a Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw.

Darllen mwy
Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025

Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025

Cyffrous yw cael cyhoeddi ein harddangosfa nesaf lle byddwn yn dathlu 10 mlynedd o Wobr Goffa Eirian Llwyd 2025. 

Bydd yr arddangosfa, sy’n agor ar yr 2il o Chwefror yn cynnwys gwaith argraffu amrywiol gan ymgeiswyr rhestr fer y wobr eleni, derbynwyr blaenorol a gweithiau gan y diweddar Eirian Llwyd.

Byddwn yn cyhoeddi enwau'r artistiaid sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr yn ystod yr wythnosau nesaf, felly sicrhewch eich bod yn cadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol o dydd Mercher ymlaen!

Darllen mwy
Enillydd y Raffl 2023

Enillydd y Raffl 2023

Llongyfarchiadau i Susan Chidley o Dudweiliog ar ennill y Raffl, sef y Belen Cregyn Llong, oedd yn rodd garedig iawn gan Matt Sanderson, dylunydd y Caffi Draenog Môr. Gweler Nia Jones yn cyflwyno y wobr iddi.

Darllen mwy