Eisteddfod Genedlaethol 2025

Rydym yn hynod falch o dderbyn Plac Teilyngdod Pensaerniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. 

Mae Plac Teilyngdod yr Eisteddfod yn dathlu prosiectau newydd neu adnewyddu sy’n dangos dyluniad eithriadol. 

Ym marn y detholwyr:

“Mae’r cydweithrediad rhwng ffurf gain y caffi Draenog y Môr, a grëwyd gan artist, a’r cynllun pensaernïol pragmatig wedi arwain at adeilad newydd cynaliadwy ac effeithlon sy’n ymateb i gyd-destun, ymdeimlad o le, ac anghenion defnyddwyr ac ymwelwyr – gan gynnig marciwr gweledol newydd i’r ganolfan.”

Yn ogystal, canmolodd y detholwyr ymddiriedolwyr Plas Glyn-y-Weddw "am y modd maent wedi datblygu y ganolfan yn strategol dros y 15 mlynedd diwethaf i sefydlu canolfan gelfyddydau gynaliadwy a bywiog".

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 2il Awst i Mark Wray, Seb Walker (Penseiri), Matthew Sanderson (Cerflunydd a Chynllunydd y caffi) a Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw.

IMG 0262