Y caffi newydd wedi ei agor yn swyddogol

Agorwyd y caffi newydd yn swyddogol ar y 18fed o Fawrth gan yr Arglwydd Mervyn Davies, Lady Jeanne Davies o Abersoch a Gareth Wyn Edwards, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol John Andrews

Amcan ailddatblygu’r caffi oedd gwneud i ffwrdd a’r caffi ansafonol blaenorol oedd wedi ei leoli mewn ystafell wydr yn dyddio o’r 1990au gan adeiladu caffi newydd sy’n drawiadol yn weledol ac yn amgylcheddol sensitif. Un nôd allweddol oedd darparu cegin fodern, effeithlon, sicrhau amodau gwaith gwell, creu mwy o eisteddleoedd i ymdopi a chynnydd diweddar mewn ymwelwyr, a chreu mwy o incwm. Roedd hefyd yn bwysig fod y caffi newydd yn adleisio pensaerniaeth y plasty rhestredig Gradd II* a adeiladwyd ym 1856-57 i’r Fonesig Elizabeth Love Jones-Parry fel tŷ gweddw gan y Pensaer Henry Kennedy o Fangor.

Nid yw’n syndod fod ymddiriedolwyr yr oriel hynaf yng Nghymru wedi meddwl yn greadigol am y datblygiad. Y canlyniad fu cynllun oedd yn cyfuno’r gofyniad ar gyfer caffi mwy gyda chelf sydd wedi ei selio ar y lleoliad. Wrth ddatblygu’r dyluniad, bu’r artist Matthew Sanderson yn ymchwilio i ddylanwadau mewn cymdeithas a chynseiliau pensaernïol y cyfnod adeiladwyd y plasty neo-Gothig gwreiddiol.

Roedd yn gyfnod pan swynwyd y genedl gan ddiddordeb gwyddonol, archwilio obsesiynol, a chasglu a dehongli’r celfyddydau addurnol. Cyhoeddwyd llyfr Charles Darwin, ‘On the Origin of Species’, yn 1859 tra’r oedd ei gyfoeswr Ernst Haeckel, y biolegydd morol ac artist, yn darganfod, darlunio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd. Mae’r caffi cerfluniedig wedi ei ysbrydoli gan gynseiliau hanesyddol y safle a’r bywyd morol cyfagos. Mae bae hardd Llanbedrog sy’n wynebu’r de-ddwyrain yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig, ac yn gartref i lawer o rywogaethau, nifer yn arbennig ac yn unigryw i’r ardal.

Draenog y môr, organeb sy’n bresennol yn lleol, sy’n ysbrydoliaeth ar gyfer strwythur hunangynhaliol y caffi sydd yn mesur un ar ddeg metr o led. Y gragen allanol yw elfen fwyaf dramatig y dyluniad gyda ‘nythfa’ o 89,000 o gegyn llong wedi’u pwnio a’u gwasgu’n unigol ac wedi eu weldio i’w his- ffrâm gan wasgaru golau naturiol i leihau enillion solar mewnol. Mae eu deunydd dur di-staen gradd 316 morol wedi’i ailgylchu yn gallu gwrthsefyll hindreuliad cemegol a ffisegol sy’n bresennol yn y lleoliad arfordirol hwn.

Mae ‘ocwlws’ ganolog yn arllwys golau naturiol i’r gofod odditano ac yn agor i awyru’r caffi yn ystod tywydd cynnes. Mae’r canhwyllyr siâp twmffat lled-dryloyw yn gerflun ar wahân ond annatod, wedi ei ysbrydoli gan y sŵoplancton microsgopig; ‘Litharachnium Tentorium’. Mae 12 trawst cerfluniol sy’n dilyn troell Fibonacci gan ymledu o’r ocwlws i gwrdd â cholofnau cyfatebol sydd wedi’u cysylltu gyda bwâu pedwar pwynt sy’n adleisio arddull y tŷ Gothig. Mae pob bwa yn fframio golygfa borthol i’r golygfeydd arfordirol a’r coetir amgylchynol.

Mae’r prosiect hefyd wedi dod a gwelliannau eraill hefyd, gan gynnwys creu toiledau newydd y gellir cael mynediad iddynt o’r caffi drwy golonâd agored sy’n gwella hygyrchedd y ganolfan.

Cliciwch yma i weld ffilm o'r datblygiad