Mae Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi comisiynu Innovation Partnership i werthuso CELF. Mae'r prosiect wedi rhoi arian i naw oriel yng Nghymru. Bydd yr arian yn sicrhau safonau diogelwch boddhaol ar gyfer benthyciadau o weithiau celf gwerthfawr o'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes. Bydd hefyd yn hwyluso gwelliannau eraill i'r safle. Y nod yw ehangu mynediad i'r casgliad cenedlaethol ledled Cymru.
Fel rhan o'r gwerthusiad, rydym yn gofyn i ymwelwyr ag orielau sy’n aelodau o CELF. Rydym am gasglu tystiolaeth o gyflawniad ac effaith gynnar a’ch barn a'ch awgrymiadau am waith CELF yn y dyfodol i wella profiad yr ymwelwyr.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur byr ar- lein:
https://www.surveymonkey.com/r/GYW7KKW
Llenwch yr arolwg erbyn 6 o Fai 2025. Bydd yn cymryd llai na 10 munud. Bydd pob ymatebydd yn cael ei gynnwys mewn raffl i ennill gwobr gwerth £50. Bydd pob ymateb yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio'n llawn â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data. Ni fydd CELF na neb arall yn gweld ymatebion unigol. Rydym hefyd wedi atodi ein Datganiad o Breifatrwydd.
Os hoffech ateb yr arolwg dros y ffôn neu ar-lein gyda'n Cyfarwyddwr Gwerthuso, Nigel Woodruff, e-bostiwch tipl@innopartners.com
Diolch yn fawr am eich cyfraniad.