Warning Notes gan Mark Anderson

Profiad sonig pwerus o ymgolli mewn disgwyliada newidiol.

Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh.

Byd-sain swynol sy’n dod yn fyw drwy berfformiad byw awyr agored sy’n newid yn barhaus. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ sy’n weledol drawiadol - gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol - mae Warning Notes yn rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol sy’n canu ar draws ein planed. Gwahoddiad chwareus a llesmeiriol i graffu ar ein dyfodol gyda’n gilydd.

I bawb - o blant i oedolion. Gweithdai a pherfformiadau hygyrch ar gael.

“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd”

DIGWYDDIAD AWYR AGORED AM DDIM: Ebrill 12+13, 2024 AM 5 O'R GLOCH AM ODDEUTU 4 AWR - Galwch i mewn unrhyw amser rhwng 5 ac 9yh!

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Comisiynir a chyflwynir ar y cyd ag OCM.

Mae 'Warning Notes' yn gynhyrchiad awyr agored ar raddfa ganolig ar gyfer hyd at 500 o bobl fesul sioe a gynhelir dros 4 awr o ddydd i nos, gyda chynulleidfaoedd yn gallu mynd a dod dros y cyfnod hwnnw, gan aros cyhyd ag y dymunant, ar faes glas neu safle llawr caled. Yn berfformiad gosod sain awyr agored sy'n ecolegol gynaliadwy, mae'n gweithio mewn amrywiaeth o fannau cyhoeddus - o dir comin, a pharciau i gyrtiau a thiroedd lleoliad - yn ddelfrydol gydag amodau sain a golau amgylchynol isel. Mae Warning Notes yn defnyddio ensemble o ‘offerynnau’ cerfluniol, cinetig, mecanyddol wedi’u gosod mewn arena gylchol, gan gynnwys gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol sy’n creu cyfansoddiad unigryw cyfnewidiol o sain weledol gyfoethog, drwchus. Mae llawer o gydrannau'r sioe yn cyfeirio at elfennau nad ydynt yn gelf, y rhai a adeiladwyd â llaw, gan ddefnyddio elfennau adnabyddadwy wedi'u hailgylchu a'u hailddefnyddio. Mae’n sioe sy’n rhan o osodwaith a rhan o berfformiad byw – yn fyrfyfyr ac yn ymatebol i’r gynulleidfa a’r amgylchedd.

CYNULLEIDFA

Wrth wraidd 'Warning Notes' mae ein pryder cyffredin a chynyddol ar gyfer y dyfodol, ar sawl lefel: personol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ecolegol.

Mae’r sioe yn darparu gofod diogel, chwareus ac adfyfyriol i synhwyro, eistedd, a thrafod hyn – gofod i bawb – o blant i oedolion. Mae 'Warning Notes' felly yn gweithio orau mewn mannau cyhoeddus cyfarwydd y gall cynulleidfa amrywiol gael mynediad iddynt yn rhad ac am ddim.

Mae tîm cynhyrchu 'Warning Notes' yn dîm medrus o arbenigwyr. Mae’n cael ei arwain gan yr artist arweiniol Mark Anderson sydd wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru ac sydd wedi gweithio’n rhyngwladol dros y 30 mlynedd diwethaf i greu perfformiadau aml-gyfrwng a safle-benodol. Ar 'Warning Notes', mae Mark yn gweithio gyda'r cydweithredwr hir-amser Liam Walsh. Gyda’i gilydd mae eu prosiectau blaenorol wedi cynnwys ‘Power Plant’, sioe sain a golau ymdrochol sydd wedi gwerthu 100,000 o docynnau ledled y byd fel rhan o’r rhaglen o wyliau rhyngwladol blaenllaw, a ‘Furious Folly’ – sioe ar raddfa fawr am oferedd rhyfel. Byddant yn gweithio gyda Mathew Olden, a fydd yn creu meddalwedd pwrpasol ar gyfer y sioe, ac Ezra Gray, dylunydd sain, a fydd yn arwain ar yr elfen gweithdy.


Ymateb Cynulleidfa


“Visually the work was beautiful, but walking through the continually evolving, never repeating soundscape was enthralling, at times soothing, then tense, then invigorating, then calming again”

“Crossing the threshold into the show was an instant immersion into another dimension....throwing the audience into a pulsing, gorgeous and threatening world woven out of sound sculptures and beautiful, rhythmic notes”

“Listening for the Warning Notes’ appears to tell a very clear story whilst allowing imaginations the freedom to create their own”