Darlith

Darlith pedwar can mlwyddiant marw Richard Hughes, Cefn Llanfair gyda'r Athro E. Wyn James. 2 o'r gloch. Mynediad £5.

Roedd Richard Hughes (c.1565-1619) yn fab i Hugh ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair, plwyf Llanbedrog ac yn fardd nodedig. Bu'n ffwtmon yn llysoedd Elizabeth y 1af a James y 1af. Priododd ei nîth, Margaret gyda Sieffre Parry o Rydolion. Eu mab, Love Parry, oedd hen, hen daid Syr Love Parry Jones Parry, gwr Elizabeth Jones Parry a adeiladodd Plas Glyn-y-Weddw yn 1857.