Mae Ella Louise Jones yn archwilio canfyddiad cyffyrddol, gweadau a siapiau trwy ei gwaith rhyngweithiol a thecstilau. Nodweddir ei chelf gan chwarae, chwilfrydedd, deunyddioldeb, cynaliadwyedd, ac ymlyniad dwfn â diwylliant Cymru.
Graddiodd Ella gyda BA o Brifysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2017 ac enillodd radd Meistr mewn Celf Gain o Brifysgol Newcastle yn 2020.
Ymhlith ei phrosiectau diweddar mae ‘Hooked’, a gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac a arddangoswyd yn Galeri Caernarfon ym mis Chwefror 2024 ac yn y Senedd yng Nghaerdydd ym mis Awst 2024. Cymerodd ran hefyd yn arddangosfa "Teulu / Family" yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn 2024 ac yn "Soft Touch and Fluffy Delights" yn Oriel Mostyn, Llandudno yn 2023.
‘Hooked’ - Crëwyd y gwaith hwn gan ddefnyddio ffabrigau gwastraff o weithdai a rhai a dderbyniwyd fel rhoddion, derbyniwyd cefnogaeth ariannol drwy grant Creu Cyngor Celfyddydau Cymru. Dechreuodd y prosiect fel ymchwil i arferion ailgylchu ac ailddefnyddio ffabrig yng Nghymru drwy'r oesoedd.
I ymhelaethu ar ei hymchwil, ymwelodd ag Amgueddfa Cymru Sain Ffagan, Melin Wlân Trefriw, a Chwmni Patchwork Cymreig. Bu hefyd yn cydweithio â’r elusen GISDA, canolfan gymunedol Yr Orsaf, a Galeri Caernarfon i gynnal gweithdai tecstilau ledled gogledd Cymru.
Drwy gynnwys cyfranogwyr o bob oed, ysgogodd y gweithdai hyn drafodaethau am safbwyntiau cenedlaethau ar ailgylchu. Bu y profiadau hyn yn ysbrydoliaeth iddi greu y gwaith, gan blethu traddodiad, cynaliadwyedd, a stori’r gymuned i’r darn gorffenedig.
‘Zig Zag Path’ - Mae’r gwaith bachyn gwlân hwn yn seiliedig ar lwybr yn Llanbedrog. Mae Ella yn cerdded y llwybr trwy gydol y flwyddyn gyda’i thad a’i chi, Max, gan wylio sut mae’n newid trwy’r tymhorau. Mae lliwiau, siapiau, a gweadau’r coed a’r planhigion yn trawsnewid yn barhaus, gan greu tirwedd sy’n esblygu’n gyson.
Mae’r gwaith yn adlewyrchu’r newidiadau tymhorol hynny, gan ymgorffori lliwiau ac atgofion o hen ffotograffau a dynnwyd ar hyd y ffordd. Mae’r artist yn gweld y broses o ddefnyddio bachyn gwlân yn debyg i natur ei hun - mae’n tyfu, yn newid lliw gyda’r edau, ac yn symud mewn gwead yn ôl y deunyddiau a ddefnyddir. Fel natur, mae’n grefft dyner ac yn cymeryd amser gan ddod ynghyd yn raddol i greu rhywbeth cyflawn a hardd.