James Naughton - Copr, Llechen a Charreg

Mae effaith goleuni naturiol ar liwiau adawyd ar y tirwedd gan olion gorffennol diwydiannol gogledd Cymru yn rhoi naws hudolus i waith diweddaraf yr artist o Bolton - Copr, Llechen a Charreg

Dywedodd: “Trwy’r prosiect yma, ‘rwyf wedi canolbwytio ar gloddfa gopr Mynydd Parys, chwarel lechi Dinorwig a dwy chwarel ger Trefor a Nefyn ar arfordir gogleddol Pen Llŷn.

“Mae’r safleoedd yma yn cynnig cyfle i edrych ar harddwch unigryw ynghyd a phrofi amrywiaeth y byd sydd o’n cwmpas, effaith treigl amser ac ymdrechion anhygoel dynoliaeth. Trwy gael ein hamgylchynu gan y tir hynafol, mae ymddangosiad y chwareli a’r cloddfeydd yn dod a chwedlau ac antur i’r meddwl.

“’Does dim amheuaeth bod cyfnod pan ‘roedd y safleoedd yma yn edrych yn wahanol iawn i’w hamgylchedd naturiol ond gallwn edrych ar eu strwythr a’r modd y maent yn dynwared natur yn y strata angenrheidiol i godi y deunyddiau crai. Mae trefn briodol i hyd yn oed y gwastraff sydd yn ymddangos fel ei fod wedi ei waredu ar hap.

“’Rwyf yn gobeithio bod y meddyliau a’r myfyrdodau yma yn treiddio i fy mhaentiadau ac yn fodd o gofnodi yr holl brofiad.”

Mae James Naughton yn un o brif arlunwyr tirlun cyfoes y DU ac mae wedi arddangos yn helaeth yn Llundain a hyd a lled y wlad. Yn dilyn magu cariad at gelf yn ystod ei blentyndod bu i James Naughton dderbyn Gradd Dosbarth Cyntaf ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds yn 1994, ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa anhygoel gan ddatblygu yn un o arlunwyr tirlun mwyaf llwyddianus Prydain.

Dywedir yn aml bod paentiadau James Naughton yn creu profiad emosiynol, ac ysbrydol, ond mae’n well ganddo beidio a chysylltu ystyr bendant i’w waith, mae’n hoffi i’w luniau siarad drostynt eu hunain gan adael i’r unigolyn sy’n edrych arnynt greu dialog bersonnol gyda hwy.