R S Thomas: Too Brave to Dream

Mae Plas Glyn-y-Weddw yn falch iawn o gynnal digwyddiad arbennig prynhawn Sul 30 Ebrill 2pm gyda Tony Brown a Jason Walford Davies, Cyd-Gyfarwyddwyr Canolfan Astudio R S Thomas, Prifysgol Bangor a Wil Rowlands, artist a chyfaill i R S Thomas

Rsphoto

Pan fu farw R S Thomas yn 2000, canfuwyd dwy astudiaeth arloesol o gelf fodern ar ei silff llyfrau – Art Now (1933) gan Herbert Read a Surrealism (1936), olygwyd gan Read, ac yn cynnwys traethodau gan ffigyrau allweddol o’r mudiad Swrrealaidd.

Ynddynt darganfuwyd oddeutu tri dwsin o gerddi oedd yn flaenorol anhysbys wedi’u hysgrifennu â llaw gan R S, yn ymateb i ddetholiad o'r llu o atgynhyrchiadau o gelf fodern yng nghyfrolau Read, gan gynnwys gwaith gan Henry Moore, Edvard Munch, George Grosz Salvador Dalí, René Magritte a Graham Sutherland – buasai llawer ohonynt wedi bod yn gyfoeswyr agos i R S.

Mae’r cerddi wedi’i cyhoeddi am y tro cyntaf, ochr yn ochr â'r gweithiau celf modern â’u hysbrydolwyd, mewn cyfrol llawn lliw hardd gan Bloodaxe Books, olygwyd gan Tony Brown a Jason Walford Davies.