O’r Cnu i’r Wŷdd

Arddangosfa yn rhoi sylw arbennig i hanes y diwydiant gwlân yn Llŷn. Bydd yn gyfle i ddod a gwaith artistiaid cyfoes o bob rhan o Gymru sydd unai yn gwehyddu neu yn defnyddio tecstiliau yn eu gwaith ynghyd.

I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd cyfrol newydd gan yr hanesydd Glyn Roberts, ‘Melinau Llŷn’ yn cael ei lawnsio. Mae’r gyfrol yn gasgliad o gyfres o erthyglau sy’n ffrwyth ei ymchwil anhygoel o drylwyr i hanes melinau ŷd a gwlân yr ardal. Fe’i cyhoeddir ar y cyd rhwng Plas Glyn-y-Weddw a Gwasg Carreg Gwalch.

Bydd casgliad o garthenni wedi eu cynhyrchu mewn ffatrioedd gwlân megis Penycaerau, Edern, Nanhoron a Phwllheli ar fenthyg gan deuluoedd lleol hefyd yn cael eu harddangos ochr yn ochr a chreiriau cysylltiedig â’r diwydiant.

Bydd yr artistiaid cyfoes sydd yn gweithio gyda gwlân yn arddangos eu gwaith yn rhan o’r arddangosfa yn cynnwys Llio James, Laura Thomas, Elin Huws, Anna Pritchard, Cathryn Gwynn, Nerys Jones, Haf Weighton, Steve Attwood Wright, Julie Roberts, Eirian Muse, Meisian a Helen Jones

Mae cyfres o weithgareddau yn cael eu trefnu i gyd fynd â’r arddangosfa gan gynnwys sgwrs ar y melinau gan Glyn Roberts, gweithdai oedolion a phlant a sesiynnau nyddu gyda Meinir Roberts sydd yn nyddu ac yn gwau gan ddefnyddio gwlân defaid lleol.

Mae Plas Glyn-y-Weddw yn ddiolchgar i Gronfa Sefydliad y Teulu Ashley a'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy am nawdd tuag at gyhoeddi y llyfr a chynnal yr arddangosfa.

Mae'r arddangosfa yn parhau tan Mawrth 17eg.