Gwybodaeth am CASW
Sefydlwyd Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW) yn 1937, ac mae’n cefnogi celf ac artistiaid yng Nghymru, gyda’r nod o wneud celfyddyd gyfoes mor hygyrch â phosibl i bawb.
Un o’r prif ffyrdd y mae’r gymdeithas wedi cynnig cymorth yw drwy gaffael gweithiau gan artistiaid a’u rhoi’n rhodd i orielau a sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru. Mae’r casgliad bellach yn cynnwys dros 950 o weithiau celf sydd wedi’u dosbarthu, ac mae modd eu gweld mewn orielau ar hyd a lled Cymru yn ogystal ag yn yr adran “Artworks” ar wefan y gymdeithas.
Mae cefnogaeth Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW) i’r celfyddydau gweledol yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau eraill:
- Mae’r gymdeithas yn cyflwyno gwobrau blynyddol, megis y wobr flynyddol i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio celf yng Nghymru, a Gwobr Eisteddfod Genedlaethol CASW ers 2014.
- Trefnu arddangosfeydd a chyhoeddiadau achlysurol o weithiau sydd wedi’u dosbarthu i orielau, megis yr arddangosfa a’r cyhoeddiad cysylltiedig i nodi 80 mlynedd ers sefydlu CASW.
- Darparu cefnogaeth i amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddyd gyfoes fel gwobr bob dwy flynedd Artes Mundi, a chyfranogiad Cymru yn Biennale Fenis (gan gynnwys darparu cyfleoedd i bobl ifanc gael profiad fel curaduron).
- Cefnogi prosiectau addysgol sydd â’r nod o ehangu mynediad at gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.
- Trefnu sgyrsiau a theithiau astudio yn y DU ac yn rhyngwladol i aelodau, gan gynnwys sgyrsiau misol gan artistiaid ac arbenigwyr celf, yn ogystal ag ymweliadau ag orielau ac arddangosfeydd yng Nghymru, ledled y DU ac yn fyd-eang.
- Mae CASW hefyd yn darparu cyhoeddusrwydd i aelodau artistig y gymdeithas drwy hyrwyddo eu harddangosfeydd i aelodau eraill.