Mae’r gwaith gwirfoddol yn cynnwys chwynu y gerddi a’u cadw yn daclus, chwynu o amgylch y planhigion sy’n amgylchynu y theatr awyr agored a’r maes parcio, plannu coed cynhenid yn y goedwig a thorri rhedyn a drain sydd yn tyfu i’r llwybrau.

Mae cyflawni y tasgau yma yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw Plas Glyn-y-Weddw a sicrhau ei fod yn atyniad o safon i’w ddefnyddwyr.

Mae mewnbwn gan wirfoddolwyr wedi bod yn allweddol i lwyddiant prosiect y Winllan – bu tîm yn brysur yn helpu i adfer y llwybrau er mwyn eu hail agor rhwng 2009 a 2013. Hefyd mae gennym wirfoddolwyr ffyddlon yn helpu yn yr ardd yn rheolaidd, ond gan ein bod wedi ymestyn yr ardd yn ystod y blynyddoedd diweddar mae llawer mwy o waith cynnal a chadw.

Os oes ganddoch ddiddordeb ymuno â’r tîm a chyfrannu ychydig o amser nawr ag yn y man i helpu, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cliciwch y linc yma i weld map o'r llwybrau.

Img 9323E