Landscape CC Young Maker Award

Galwad am Wneuthurwyr 18-25 Oed

Mae Plas Glyn-y-Weddw a Crefftau Making Little Craft yn gwahodd gwneuthurwyr a chrefftwyr 18-25 oed sy'n dod o ogledd Cymru neu sy'n byw yno ar hyn o bryd i wneud cais am y Wobr Gwneuthurwr Ifanc unigryw hon ac i greu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa Coed/Coexist a gynhelir ym Mhlas Glyn-y-Weddw o Fai - Gorffennaf 2026. Mae'r wobr yn cynnig cyfle i unigolyn ymgymryd ag wythnos o brofiad gwaith gyda gwneuthurwyr profiadol, wythnos o ddefnydd stiwdio am ddim, £2,000 i wireddu gwaith newydd a cael ei chynnwys yn arddangosfa Coed/Coexist ym mis Mai 2026.

 

Cefndir

Ym mis Medi 2024, cynhaliodd Plas Glyn-y-Weddw ym Mhen Llŷn brosiect ar y cyd â'r artist Siapaneaidd Junko Mori a'i gŵr, yr artist coed o Gymru, John Egan, i gyflwyno Symposiwm Coed/Coexist, a gynhaliwyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Hanfod prosiect Coed/Coexist yw tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae'r prosiect cyfan yn anelu at ddathlu'r ardal leol a'r cymunedau sydd wedi'u lleoli ym Mhen Llŷn.

Gan adeiladu ar lwyddiant y symposiwm, mae Junko, John a Phlas Glyn-y-Weddw yn gweithio i ddatblygu prosiect ehangach Coed/Coexist gan gynnwys y wobr hon i gefnogi ac amlygu cyfoeth sgiliau, meddwl a dychymyg gwneuthurwyr ifanc o ogled Cymru yn y sector crefftau.

Gwahoddir yr enillydd i weithio gyda a/neu ymateb i bren o goeden ffawydd fawr a syrthiodd mewn storm ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2024 ar gyfer creu gwaith newydd. Mae'r goeden hon a'i phren yn ganolog i brosiect Coed/Coexist yn symbolaidd ac yn gorfforol ac mae'r prosiect yn anelu at ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr sy'n gysylltiedig â'r ardal.

 

Mae'r wobr yn cynnwys:

  • £2,000 i wireddu gwaith newydd (gan gynnwys yr holl ffioedd gan gynnwys cludo gwaith i Blas Glyn-y-Weddw)
  • 1 wythnos o brofiad gwaith yn Stiwdio Making Little Craft Studios (profiad o weithdai pren a/neu fetel)
  • 1 wythnos o ddefnydd stiwdio yn Stiwdio Making Little Craft Studios yn Nhudweiliog (mewn gweithdai pren a/neu fetel)
  • Deunydd pren o'r goeden ffawydd sydd wedi cwympo gan gynnwys planciau, boncyffion, canghennau'r canopi, sglodion pren, blawd llif a siarcol.
  • Cefnogaeth gan Plas Glyn-y-Weddw a Junko Mori a John Egan drwy gydol y prosiect

     

Pwy all wneud cais:

  • Gwneuthurwyr/crefftwyr rhwng 18-25* oed
  • Gwneuthurwyr/crefftwyr sy'n byw yng ngogledd Cymru am y 5 mlynedd diwethaf neu sy'n wreiddiol o ogledd Cymru
  • Gwneuthurwyr sy'n gweithio mewn cyfryngau crefft e.e. clai, gwydr, metel, pren, a ffibr. Rydym yn diffinio crefft fel gwneud gwrthrychau diriaethol â llaw yn fedrus. Nid yw cyfryngau fel peintio a lluniadu a ystyrir yn draddodiadol yn 'gelfyddydau cain' yn gymwys. Cysylltwch â john@makinglittle.com os ydych yn ansicr ynghylch sut y gallai eich ymarfer fod yn berthnasol yn hyn o beth
  • Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys o gefndiroedd incwm isel, y rhai sy'n niwroamrywiol, artistiaid LGBTQIA+ ac artistiaid o'r mwyafrif byd-eang. Croesewir cynigion gan artistiaid sy'n siarad Cymraeg
  • Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir i wneud cais.

*Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 25 oed ym mis Mai 2026

Am unrhyw ymholiadau: E-bost: john@makinglittle.co.uk 

Sut i Ymgeisio: Cyflwynwch geisiadau drwy e-bost i john@makinglittle.co.uk 

 

Gofynion Ymgeisio:

Anfonwch PDF gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Gwybodaeth fywgraffyddol gan gynnwys cefndir addysgol, profiad gwaith ac ati (Uchafswm o 250 gair)
  • Disgrifiwch eich ymarfer a sut rydych chi'n gweld y cyfle hwn o fudd i chi a'ch gwaith (Uchafswm o 250 gair)
  • Delweddau: Anfonwch hyd at 6 jpeg o ansawdd da o waith diweddar (dylai pob ffeil fod o leiaf 1MB ac uchafswm o 3MB). Labelwch bob ffeil; 'Enw'r artist, teitl, blwyddyn, cyfrwng'.

Images: Send up to 6 good quality jpegs of recent work (each file should be a minimum of 1MB and  max 3MB). Label each file; ‘Artist name, title, year, media’. 

 

Dyddiad Cau:

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn: 5yh, 31 Gorffennaf 2025

 

Y Broses Ddethol:

Bydd panel dethol yn asesu pob cynnig, yn cynnwys Junko Mori a John Egan, Cyfarwyddwr Plas Glyn y-Weddw, Curadur a Swyddog Ymgysylltu a detholwr allanol arall.

 

Amserlen Gwobr Gwneuthurwr Ifanc:

Ceisiadau'n Agor: 1 Gorffennaf

Cau Ceisiadau: 31 Gorffennaf

Hysbysir Ymgeiswyr erbyn: 30 Awst

Profiad gwaith ac amser stiwdio: O fis Medi ymlaen

Arddangosfa'n agor: Mai 2026

Arddangosfa'n cau: Gorffennaf 2026

 

Cefndir cychwynwyr y prosiect:

Junko Mori John Egan 4 M2 A0935

Cefndir Making Little

Dechreuodd Making Little yn 2017 yng Nghwt Tatws yn Nhudweiliog gan gyflwyno gweithdai crefft amrywiol gan gasgliad o wneuthurwyr, artistiaid, crefftwyr a ffrindiau, pob un â brwdfrydedd i ledaenu'r awydd i ddefnyddio'ch dwylo i wneud crefft. Nawr dan arweiniad trigolion Penrhyn Llŷn, Junko Mori, y gweithiwr metel a John Egan, y gweithiwr coed, eu cenhadaeth yw hyrwyddo gweithgareddau ymarferol i ffyrdd o fyw modern yn ogystal â chreu lle i bobl ar gyfer cyfarfodydd diwylliannol.

Junko Mori

Mae Junko Mori yn artist Siapaneaidd sy'n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru. Gan weithio'n bennaf mewn cerflunio gwaith metel, mae gweithiau Mori yn ddarnau cyfanredol sydd fel arfer yn gysylltiedig yn thematig ac yn weledol â'i harsylwadau o fater byw, yn enwedig planhigion. Mae ei dewis o fetel yn amrywio'n fawr o arian i ddur meddal, fel y mae maint a graddfa ei gweithiau, sy'n amrywio o ddarnau bwrdd llai i gerfluniau mawr. Mae ei steil nodedig yn un o gyferbyniadau a chyfuno, gan dynnu ar ei haddysg gwaith metel a cherflunio yn Siapan a'r DU, ochr yn ochr â phylu'r ffiniau rhwng celfyddyd gain a chrefft. Mae ei gweithiau mewn llawer o amgueddfeydd rhyngwladol, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Gelf Honolulu.

www.junkomori.com

John Egan

Mae gwaith John yn deillio o werthfawrogiad dwfn o'r amgylchedd naturiol, ac mae'r dyluniad yn uniongyrchol gysylltiedig ag ef. Mae'n ceisio creu gwrthrychau hardd parhaol a darnau unigryw, a thrwy hynny gloi carbon ym mhob gwrthrych a wneir. Dim ond deunydd o ffynonellau lleol y mae'n ei ddefnyddio, sy'n golygu bod ôl troed pob gwrthrych yn fach ac yn gweithio mewn cytgord â'i amgylchoedd. Yr amgylchedd a'i effaith arno yw ei egwyddorion arweiniol ac maent yn llunio ei ddyluniadau.

www.makinglittle.co.uk

Plas Glyn-y-Weddw

Mae Plas Glyn-y-Weddw, wedi'i leoli yn Llanbedrog ar Benrhyn Llŷn, yn ganolfan gelfyddydau hynod wedi ei leoli mewn plasty Gothig Fictoraidd sy'n gwasanaethu fel un o orielau hynaf Cymru. Mae'n cynnig rhaglen gelf a diwylliant amrywiol gydag arddangosfeydd newidiol, wedi'u hategu gan ddigwyddiadau a gweithgareddau i bob oed. Mae'r oriel, sydd gyda mynediad am ddim i fynd iddi drwy gydol y flwyddyn, wedi'i hachredu fel amgueddfa ac mae'n cynnig ystafelloedd hanesyddol ochr yn ochr ag arddangosfeydd dros dro o gelf gyfoes. Mae'r caffi unigryw, a ddyluniwyd a'i wneud gan gerflunydd metel Matt Sanderson, yn dangos ymrwymiad yr elusen i arddangos gwaith crefft a dylunio Cymreig. Mae'r coetir 14 erw o statws hynafol, sy'n rhan o erddi gwreiddiol y Plas, hefyd yn eiddo i'r elusen ac mae'n cynnwys rhwydwaith o lwybrau troed sydd ar agor i'r cyhoedd, gyda'r prif lwybr yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Yn flynyddol, mae tua 140,000 o ymwelwyr, gan gynnwys pobl leol a thwristiaid, yn mwynhau'r lleoliad, gan elwa o weithdai, perfformiadau a rhaglenni addysgol wedi'u teilwra ar gyfer plant, oedolion a dysgwyr Cymraeg o ganolfan iaith gyfagos. Yn ogystal, mae'n cynnal cyngherddau, sgyrsiau a digwyddiadau mwy, gan feithrin canolfan ddiwylliannol fywiog gydag ymgysylltiad cymunedol eang.