Ganed Angela Davies yn Wrecsam ac mae ei gwaith yn trafod systemau cynnal a'u rhwydweithiau bregus. Gan gwmpasu graddfa a phrosesau, mae Davies yn aml yn cael ei denu at ddefnyddio deunyddiau organig i archwilio syniadau o drawsnewid. Mae hi'n gweithio mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys lluniadu, peintio, ffotograffiaeth, cerflunio, gosodiadau, fideo a pherfformiad.
Cwblhaodd Davies ei gradd Meistr yn Ysgol Gelf Manceinion yn 2013. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Sefydliad Fosun, Shanghai, Currents, Sante Fe, Glynn Vivian, Abertawe, IKT/Mostyn, Llandudno, S12 Galleri Bergen, Norwy, V2 Lab for the Unstable Media, yr Iseldiroedd, Pontio, Bangor a Meno Parkas Galerija, Lithwania.
Yn 2022, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Dyfodol Cymru i Angela. Mae gwobrau eraill a dderbyniwydyn cynnwys Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, Gwobr Cyflymydd Effaith ESRC ym Mhrifysgol Bangor, Innovate UK, A-N am gymryd rhan yn ISEA14.
Mae hi wedi cynnal preswylfeydd yn Academi Gelf yr Alpau, Theatr Genedlaethol Cymru, HOME Manceinion, Pervasive Media Studio Bryste a Cadw. Mae wedi cwblhau comisiynau ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a BBC Connected Studios gyda NESTA. Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat.
Gyda Mark Eaglen, mae Davies yn gyd-sefydlydd StudioMADE - stiwdio drawsddisgyblaethol yn Ninbych, Cymru.