Y Tram nôl yn y Plas

Mae’r unig dram gwreiddiol a gariai deithwyr rhwng Pwllheli a Llanbedrog sydd wedi goroesi yn awr yn cael ei arddangos yn dilyn bod mewn storfa am flynyddoedd.

Sefydlwyd y dramffordd rhwng Pwllheli a Llanbedrog yn fuan wedi i Solomon Andrews brynu Plas Glyn y Weddw yn 1896 ac agor oriel gelf yma. Datblygwyd y dramffordd er mwyn mwyn cludo ymwelwyr o dref Pwllheli i’r Plas a oedd yn atyniad poblogaidd ar gyfer ymwelwyr.

Teithiai y tram, oedd yn cael ei dynnu gan geffyl hwng Ffordd Caerdydd yn y dref a’r orsaf dros y ffordd i’r eglwys yn Llanbedrog i amserlen rheolaidd yn ddyddiol.

Yn Hydref 1927, o ganlyniad i storm enbyd, dinistrwyd rhannau o’r trac rhwng Carreg y Defaid a Pwllheli. Yn anffodus ni chafodd y dramffordd ei hadfer a chäewyd y dramffordd bryd hynny.

Gellir gweld o’r hen lun bod dau fath o dram sef rhai caëdig ac agored, byddai posib bachu ceffyl unrhyw ben i’r tram, felly ‘doedd dim angen troi y tram ar ôl cyrraedd diwedd y siwrnai, dim ond symud y ceffyl o un pen i’r llall.

Bu yn cael ei ddefnyddio fel storfa bwydydd anifeiliaid ar fferm yn yr ardal am flynyddoedd cyn cael ei ail-ddarganfod yn 1967. Defnyddiwyd ef fel Canolfan Dwristiaeth ym Mhen Cob Pwllhei am gyfnod, ac yn 1986 fe’i cludwyd i Amgueddfa Steamport er mwyn ei adnewyddu yn llwyr.

Plant Ysgol Gydar Tram

Yn 2013 cytunodd Cyngor Tref Pwllheli sydd berchen ar y tram, iddo gael ei roi ar fenthyg i Blas Glyn y Weddw er mwyn ei arddangos. Gyda cymorth ariannol gan Gronfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Cyngor Tref Pwllheli, paentiwyd y tram yn 2013-14.
Cerddodd plant Ysgol Llanbedrog o Bwllheli i Blas Glyn-y-Weddw yn ddiweddar er mwyn dathlu bod y tram hanesyddol bellach yn cael ei arddangos yng ngardd y plasdy.