Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

'Llŷn mewn Lliw' Mai 12 - Gorffennaf 7, 2024 (cliciwch i weld delweddau)

Cychwynodd Karen ei gyrfa yn gweithio fel dylunydd llawrydd yn Llundain yn dylunio patrymau ar gyfer ffasiwn. Dyluniodd waith ar gyfer Victoria’s Secret, Gap a Valentino yn ogystal a’r farchnad yn America a Hong Kong.

Yn 2004, cychwynodd gwrs TAR ac erbyn hyn mae wedi bod yn dysgu celf yn ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon ers dros ugain mlynedd.

Mae yn mwynhau dysgu, ond hefyd yn ddigon lwcus i fwynhau amser rhydd yn cerdded a chrwydro mynyddoedd Eryri yn lluniadu a gorliwio’r lliwiau yn y golygfeydd hyfryd sydd ar ei stepan drws.

Mae yn arddangos ei gwaith yn Zip World, Bethesda, Artworks 2 yn Betws y Coed, Galeri Carwsel, Galeri Bernard, Llandudno ac Oriel Môn. Dyma ei harddangosfa unigol gyntaf ym Mhlas Glyn-y-Weddw.