Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

"Fy enw yw Teresa Jones, yn enedigol o Waunfawr, Arfon ac ar ôl crwydro ‘chydig ‘rwyf adre’ ers pymtheg mlynedd bellach, Mae gen i ddiddordeb mewn celf erioed ond wedi cyrraedd hanner cant, daeth y cyfle i astudio fel myfyriwr hŷn yng ngholeg Menai a graddio oddi yno gyda rhagoriaeth mewn celf a dylunio.

Mae’r Gymraeg gyda’r hynaf o ieithoedd y byd a bu sawl ymgais dros y canrifoedd i’w dilorni a’i dileu; erbyn heddiw mae hi wedi ei rhoi ar restr ieithoedd mewn perygl.
Mae llawer o draddodiadau’r Cymry wedi hen farw o’r tir a chredaf bod y Gymraeg yn y sefyllfa mwya’ bregus yn ei hanes ac mai edau frau iawn sydd yn ei dal gyda’i gilydd.
Mae rhan helaeth o fy ngwaith yn ymwneud a Chymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, ei thraddodiadau a’i thir a’i phobl ac mae’n hanfodol bwysig i mi fel artist a chenedlaetholwraig i ymdrin a’r pethau hyn drwy gyfrwng fy nghelf.
Yn aml iawn daw ysbrydoliaeth o farddoniaeth; teimaf fy mod yn hiraethu ac yn galaru am golled canrifoedd ond bod eto obaith ar y gorwel.
Nid wyf yn cyfyngu fy hun i unrhyw gyfrwng penodol ac yn hyblyg yn fy newis o ddefnyddiau.
Mae newid hinsawdd yn bwnc agos iawn at fy nghalon ac yn peri pryder, felly ar gyfer yr arddangosfa yma ‘rwyf wedi ail ddefnyddio papur sidan sydd wedi bod yn lapio dilladau a sgidiau ac wedi creu y gwaith ar hwnnw.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n gefn i mi ar hyd y daith yma gyda diolch arbennig a diffuant i Ann Jones, Croesor, Waunfawr am ei gweledigaeth ac i Oriel Plas Glyn-y-Weddw am y cyfle i arddangos."

Cliciwch yma i weld gwaith Teresa