Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae Nesta Eluned yn hanu ac yn byw yn Eryri. Bu yng Ngholeg Celf Lerpwl yn y 1970au cynnar ac yn awr mae yn arlunydd llawn amser.

"Gwelaf fy mhroses peintio fel parhâd o’r traddodiad o beintio’r tirwedd yn yr ardal. Daw ysbrydoliaeth o waith arlunwyr fel William Selwyn a Peter Prendergast lle gwelir eu dehongliad ac adlewyrchiad o Ogledd Cymru yn glir.

Mae fy mhroses o baentio yn symud rhwng gweithio yn yr awyr agored i fod yn y stiwdio, a rhwng arlwy o ddefnyddiau a thechnegau gyda’r gwaith yn asio cyfansoddiadau tirwedd clasurol gyda chelfyddyd haniaethol. Daw hyn drwy farciau deinamig ac ystumiol a ddaw yn naturiol o ymgolli yn amgylchedd digyfaddawd gwyllt Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.”

I weld gwaith Nesta ac i brynu ar lein, cliciwch yma