Oll

Anna Pritchard X Parc Cenedlaethol Eryri National Park
Mae ‘Carthenni Enwau Lleoedd Eryri’ yn arddangosfa arbennig sy'n dathlu cyfoeth enwau sy’n rhan o dirwedd hanesyddol Eryri trwy’r grefft hynafol o wehyddu gwlân. Mae enwau lleoedd yn dal ysbryd lle, yn tanio'r dychymyg ac yn dwyn i gof fywyd bob dydd a hanesion o’r gorffennol.
Mae chwe carthen wlân unigryw yn cofnodi detholiad o enwau a gasglwyd trwy wybodaeth leol ar draws Eryri. Wedi'u dylunio gan y gwehydd a'r dylunydd tecstilau Anna Pritchard, mae pob carthen yn cynrychioli ardal benodol, gyda dyluniadau'n adlewyrchu ei nodweddion arbennig.
Wedi'u comisiynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r carthenni'n rhan o ymdrech ehangach i gofnodi a diogelu hen enwau yn Eryri ar gyfer y dyfodol.