Youtube video

Croeso i Ganolfan Gelfyddydau

Plas Glyn-y-Weddw

ARTS CENTRE

Croeso i Blas Glyn-y-Weddw

ARDDANGOSFA HAF - 16.07.25 - 05.10.25

Detholiad o waith gan 100 o artistiaid. Gellir prynu a chasglu darn o waith ar y diwrnod!

Cliciwch ar y linc isod i weld yr holl waith.

Ewch i'n siop ar lein: https://oriel-plas-glyn-y-wedd...
 

Hefyd yn arddangos ochr yn ochr â'r Arddangosfa Haf....

ANGELA DAVIES
'At Galon y Gwir' - 20.07.25 - 05.10.25

Mae'r arddangosfa esblygol hon yn dwyn ynghyd gerflunwaith, ffilm a phaentiadau sydd wedi'u llunio wrth i'r artist wrando ar hen straeon lleol am smyglo halen a rhwydweithiau arfodirol cyfrin. Gan archwilio halen fel deunydd cerfluniol, mae'n myfyrio ar gylchoedd y môr a'r corff, colled amgylcheddol, a mannau iachâd. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am arddangosfa Angela.

 

PROSIECTAU: COED COEXIST

Mae Coed Coexist yn brosiect a gychwynwyd gan yr artistiaid o Ben Llŷn Junko Mori a John Egan mewn partneriaeth â Phlas Glyn-y-Weddw ac fe'i lansiwyd gyda symposiwm ym mis Medi 2024. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn, a bydd yn cyrraedd uchafbwynt gyda arddangosfa rhwng Mai a Gorffennaf 2026.

Am rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut i gymryd rhan, cliciwch yma.

 

PARCIO
Mae system parcio (Parking Eye) yn weithredol ar y safle. Mae'r 2 awr gyntaf am ddim, ond rhaid talu am amser ychwanegol.
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar yr arwyddion yn y maes parcio os gwelwch yn dda a nodwch bod y ffioedd yn berthnasol i ddeiliaid bathodyn glas yn ogystal.

Newyddion Diweddaraf

Cymerwch gip ar ddigwyddiadau yn y Plas

Eisteddfod Genedlaethol 2025

Eisteddfod Genedlaethol 2025

Rydym yn hynod falch o dderbyn Plac Teilyngdod Pensaerniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. 

Mae Plac Teilyngdod yr Eisteddfod yn dathlu prosiectau newydd neu adnewyddu sy’n dangos dyluniad eithriadol. 

Ym marn y detholwyr:

“Mae’r cydweithrediad rhwng ffurf gain y caffi Draenog y Môr, a grëwyd gan artist, a’r cynllun pensaernïol pragmatig wedi arwain at adeilad newydd cynaliadwy ac effeithlon sy’n ymateb i gyd-destun, ymdeimlad o le, ac anghenion defnyddwyr ac ymwelwyr – gan gynnig marciwr gweledol newydd i’r ganolfan.”

Yn ogystal, canmolodd y detholwyr ymddiriedolwyr Plas Glyn-y-Weddw "am y modd maent wedi datblygu y ganolfan yn strategol dros y 15 mlynedd diwethaf i sefydlu canolfan gelfyddydau gynaliadwy a bywiog".

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 2il Awst i Mark Wray, Seb Walker (Penseiri), Matthew Sanderson (Cerflunydd a Chynllunydd y caffi) a Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw.

Darllen mwy
Adfer y Winllan

Adfer y Winllan

Diolch i gyllid brys trwy Bartneriaeth Natur Gwynedd rydym wedi llwyddo i glirio y mwyafrif o’r coed oedd wedi syrthio o ganlyniad i storm Darragh ddechrau mis Rhagfyr.

Darllen mwy
RAFFL FAWR

RAFFL FAWR

Rydym yn falch o gyhoeddi mai gwobr y Raffl Fawr flynyddol eleni fydd paentiad gwreiddiol gan Louise Morgan 'Adlewyrchiad y Nos, Caernarfon'. Rydym yn ddiolchgar i Louise am roi y llun fel rhodd o'i chasgliad 'Gorwelion Diddiwedd' a arddangoswyd yma yn ystod Arddangosfa'r Hydref 2024.

Tocynnau yn £1 ac ar gael i'w prynu o'r dderbynfa yma yn y Plas.

 

Darllen mwy