2

Angela Davies

'At Galon y Gwir'

Mae ‘At Galon y Gwir’ yn nodi pum mlynedd o esblygiad yn ymarfer yr artist o Ddinbych, Angela Davies, cyfnod a luniwyd gan famolaeth newydd a galar ecolegol sy’n dyfnhau. Mae’r arddangosfa fawreddog hon yn dwyn ynghyd gerflunwaith, delwedd symudol, a phaentio, gan gynnwys ymholiad sy’n ymateb i’r safle a ddatblygwyd trwy gasglu straeon yng nghymunedau Pen Llŷn.

Mae gwaith Davies yn cael ei arwain gan gyffyrddiad ac emosiwn wrth roi sylw manwl i'r byd naturiol sydd o'n cwmpas ac ynom ni. Yn ganolog i'r arddangosfa hon mae presenoldeb rheolaidd halen - deunydd sydd wedi bod yn rhan o'i hymarfer ers tro byd. Mae halen, sydd ar yr un pryd yn organig ac yn symbolaidd, yn dal y pŵer i gadw, iacháu a thrawsnewid.

 

Angela Davies At Galon y Gwir To the heart of the matter

 

Mae'r corff newydd hwn o waith wedi ei ysbrydoli gan hanesion lleol o smyglo halen, torri'r gyfraith, y rhwydweithiau cyfrinachol a'r ogofâu cudd a ddefnyddiwyd ar un adeg i storio halen. Mae'r straeon hyn wedi bod yn fan cychwyn i'r artist archwilio'r sylwedd hwn ymhellach fel deunydd cerfluniol organig ac wedi helpu i ffurfio iaith weledol o rwydweithiau cudd a gweithredoedd tawel o wrthwynebiad.

Drwy’r broses hon, mae’r artist yn datgelu ei diddordeb parhaus yn y ffyrdd y gall deunyddiau a ffurfiau gyfathrebu â’i gilydd, gan amlygu’r rhyng-gysylltiad dwfn rhwng ein cyrff a’r amgylchedd. Wedi’i lywio gan theori ecoffeministaidd, mae’r gwaith yn myfyrio ar golled a hiraeth amgylcheddol - tra hefyd yn cydnabod y mannau rydyn ni’n eu creu wrth chwilio am iachâd a chysur.

Bydd 'At Galon y Gwir' yn parhau i esblygu drwy gydol cyfnod yr arddangosfa, gydag ymyriadau a chynulliadau perfformiadol yn bywiogi’r deunyddiau ymhellach ar draws y mannau arddangos

 

Reach Plas promo image AD