Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Wedi’i leoli yn Swydd Henffordd gyda’i deulu ifanc, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae Matt yn creu celf ar raddfa fawr – creadau crefftus, dyfeisgar i’w harddangos yn barhaol. Mae Matt wedi gweithio yn y maes ers dros 20 mlynedd yn creu gwaith toreithiog sydd wedi arwain at dros saith deg o brosiectau dinesig wedi’u gosod ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'n gerflunydd sy'n gweithio mewn dur, copr ac efydd ac er gwaethaf natur wrthiannol y deunyddiau hyn, mae'n adnabyddus am greu cerfluniau beiddgar ond cain a gosgeiddig gyda themâu naturiol a chreaduriaid chwedlonol ar raddfa anferth.

Yn 2018, comisiynodd Plas Glyn-y-Weddw Matt i ddylunio gwaith celf y gellid ei ddefnyddio fel caffi - dyluniad a fyddai’n cyfuno celf, natur a diwylliant. Gan weithio gyda phenseiri cadwraeth Mark Wray (https://markwray.co.uk/plas-gl...) a Fold Engineering, daeth ei weledigaeth yn fyw mewn datblygiad gwerth £1.5m a agorwyd yn swyddogol ym mis Mawrth 2023.

Cliciwch yma i weld gwaith Matt ac i brynu ar lein