Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae 'Hwyl fawr i hynna i gyd' yn gasgliad o weithiau sy'n adlewyrchu preswyliad yr artist ym Mhlas Glyn-y-Weddw a'i amser yn crwydro llwybrau Llŷn ac Eifionydd cyn ac ar ôl y Pandemig. Cafodd y gwaith ei arddangos yma yng ngwanwyn 2023.

Datganiad yr Artist

'Mae’r paentiadau hyn yn cynrychioli cyfnod preswyl/prosiect a ddechreuodd yng Ngwanwyn 2019 ac sydd wedi parhau hyd at heddiw. Dros gyfnod o ugain mlynedd mae fy ymarfer wedi canolbwyntio ar arsylwi chwyn a ganfyddir fel arfer mewn amgylcheddau trefol gan ddefnyddio'r wybodaeth i greu amrywiaeth o weithiau, o osodiadau i baentiadau ynghyd a gweithio mewn cymunedau. O ganlyniad mae y prosiect hwn wedi cynnwys cerdded llwybrau penrhyn Llŷn a chofnodi'r planhigion trwy luniadau, ffotograffau, ysgrifeniadau ac atgofion a gasglwyd ar hyd y daith.

Fel artist rwyf wedi peintio erioed, ond dros yr wyth mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn arbrofi’n bennaf gyda syniadau a chyfryngau amrywiol ynglŷn â sut y gallai’r paentiadau wthio ffiniau a chwestiynu’r hyn yr ydym yn ei weld neu’n disgwyl ei weld mewn gwirionedd.

Yr hyn a sylweddolais i oedd, trwy gamgymeriad, afluniad, haenu a thrin arwynebau mewn ffyrdd cynnil trwy gydol y gwaith paentio, y gallwn i greu cysylltiad â realiti bywyd sy'n cael ei fyw'n amherffaith, gadael perffeithrwydd ar gyfer bodolaeth ddiffygiol a datgysylltiedig sydd rhywsut yn dal i gadw ei fodolaeth tra'n parhau i ddatod a dymchwel. Mae'r paentiadau hyn a'r gosodiad yn ei gyfanrwydd yn fwriadol fyfyrgar a bwriedir ymgysylltu â hwy dros sawl eisteddiad a chyfnodau hir o arsylwi, gan gwestiynu'n barhaus yr hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn edrych arno a'r hyn yr ydym yn ei weld mewn gwirionedd. Mae'r hyn a ddywedir wrthym yn real a'r hyn a gredwn yn artiffisial.'

Cliciwch yma i weld y gwaith