Oll

Astudiodd Noёlle Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf St Martin, Llundain. Mae hi a’i theulu wedi byw yn hen fwthyn y cipar ym Mhlas Tan y Bwlch yn Nyffryn Ffestiniog ers bron i ddeugain mlynedd. Mae ei gwaith yn adlewyrchu ei chariad a’i phryder am y wlad o’i chwmpas.
Ers 2008 mae Noёlle wedi bod yn peintio, darlunio ac ysgrifennu bob tymor yn y goedwig fynyddig ger ei chartref ac ym mhendraw Llŷn yn edrych dros Ynys Enlli. Mae hi'n gwneud paentiadau lled-haniaethol sy'n ceisio dal yn weledol hanfod profiad - boed yn y dirwedd neu'n byw mewn byd cyfnewidiol a chymhleth. Mae hi hefyd yn gwneud llyfrau artistiaid a gedwir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Brydeinig, V & A a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gwnaethpwyd ei chyfrol artist cyntaf ‘Intimate Land’ yn 1988 fel alarnad am blannu cannoedd o erwau o goed conwydd yn Nhan y Bwlch yn y 1960au. Prynodd ei theulu 30 erw o blanhigfeydd conwydd ar ddechrau’r 1990au a’u cwympo gan ailblannu coed brodorol a’r tir hwn testun y ffolio cydweithredol Coetir Hafod - Coedwig Law Eryri gyda Kim Atkinson. Mae Noёlle a Kim wedi cydweithio ar nifer o brosiectau ers 2010, yn fwyaf diweddar yn ystod eu cyfnod preswyl yng Nghoedwigoedd Glaw Is-Antarctig De Chile.
 

Ysbrydolwyd paentiadau a llyfrau artistiaid cydweithredol Mynydd Tir-y-cwmwd Noёlle Griffiths a Kim gan y coetir a'r pentir ger Plas Glyn y Weddw ac fe'u crëwyd fel rhan o'u harddangosfa 'Gardd Mwsog' yn y Plas yn 2024.

Cliciwch i weld gwaith Noёlle