Mae Richard Farmer wedi byw mewn sawl ardal yng Nghymru - Bro Gwyr, Sir Trefaldwyn a Gwynedd - ac ers ugain mlynedd yn ardal Caernarfon. Mae teithio gyda llyfr brasluniau wedi bod yn bwysig erioed iddo ac o’r brasluniau hyn mae’n datblygu ei argraffiadau. Dechreuodd wneud printiau yn ifanc ac mae o wedi astudio ystod eang o dechnegau argraffu ers hynny ond mae’n dychwelyd at leino fel ei hoff gyfrwng.

Cliciwch i weld gwaith Richard