Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Wedi ei eni a'i fagu ym mhentref chwarel lechi Bethesda, Gogledd Cymru graddiodd o Fanceinion gyda BA (Anrh) mewn tecstilau gwehyddu ac yna MA mewn tecstilau o'r Coleg Celf Brenhinol.
Gan adael Llundain ar ddiwedd y 1980au daeth yn wehydd preswyl cyntaf yn Amgueddfa Sidan Paradise Mill yn Macclesfield, a rhoddodd hyn y cyfle iddo ddatblygu ei ystod wreiddiol o ffabrigau sidan cain wedi'u gwehyddu â llaw. Ers hynny mae wedi bod yn dylunio ffabrigau wedi’u gwehyddu jacquard a chynnyrch mewnol o safon gan gynnwys ei ystod o flancedi tapestri Cymreig, cwiltiau, taflu a chlustogau. Mae ei gleientiaid wedi cynnwys sefydliadau mawr yn ogystal ag unigolion sydd wedi comisiynu dyluniadau pwrpasol i gyd wedi'u gwehyddu mewn ffibrau naturiol.
Mae ei waith wedi’u harddangos mewn Orielau ledled Cymru, y DU, UDA ac Ewrop.

Mae ei ddyluniadau'n cael eu creu i weddu i unrhyw leoliad, o gastell i ystafell ac yn ymateb i friff y cleient ond hefyd gan gymryd i ystyriaeth ei gefndir diwylliannol ei hun gan roi apêl Gymreig nodedig i'r dyluniadau ond gydag ailddehongliad cyfoes o'r traddodiadol. O’i siop stiwdio yng Nghanolfan Grefft Rhuthun mae hefyd yn stocio amrywiaeth o ffabrigau llenni a chlustogwaith yn ogystal â chynnyrch gan gynnwys blancedi, taflu a chlustogau.

Yn ddiweddar, mae Cefyn wedi bod yn gweithio ar brosiect cyfnewid diwylliannol gyda Gogledd Ddwyrain India. sydd wedi ysbrydoli casgliad newydd o ffabrigau a gweithiau arddangos.

Cliciwch yma i weld gwaith Cefyn Burgess