Amelia Shaw-Hastings 1924 - 2018
Delweddau o Enlli
Hydref 12 – Rhagfyr 24, 2025
Byddai Amelia Shaw-Hastings yn ymweld yn rheolaidd ag Ynys Enlli gyda’i theulu yn ystod hafauy 1960au a dechrau'r 1970au, gan aros yn gyntaf yn Tŷ Bach, tŷ ei chwaer Margery Colingwood, ac yna'n ddiweddarach gan brydlesu Tŷ Nesaf am sawl blwyddyn.
Roedd ei thalent yn amlwg yn gynnar iawn gan fynychu Ysgol Gelf Iau o 13 oed, ac ar ôl sawl blwyddyn fel artist masnachol yn ystod ac ar ôl y Rhyfel, cafodd ei hysbrydoli i ymgymryd â cherflunio a phortreadu a ddaeth yn ffocws ei gyrfa broffesiynol.
Roedd hi hefyd wrth ei bodd yn tynnu lluniau a braslunio ac yn cael pleser mawr mewn gwneud brasluniau cyflym o dirwedd, arfordir, pobl ac anifeiliaid Enlli yn ystod ei hymweliadau, a bydd detholiad ohonynt i'w gweld yn yr arddangosfa.
Dangoswyd y casgliad hwn yn flaenorol fel rhan o arddangosfa ‘Gweledigaethau o Enlli’ a gynhaliwyd ar yr ynys ei hun ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2024.
Bydd copîau o lyfryn arddangosfa olaf Amelia, sef arddangosfa ôl-syllol yn Oriel Gelf ac Amgueddfa The Wilson, Cheltenham yn 2007, ar gael.