Oll

Ganed Sarah yn Coventry yn 1962 ac ymgartrefodd yn Sir Gaerfyrddin lle enillodd radd BA mewn Celfyddyd Gain ac yna radd MA gydag Anrhydedd. Mae nawr yn Arweinydd Cwrs Lefel 1 Celf Gain yng Ngholeg Celf Caerfyrddin tra’n parhau i baentio ac arddangos. Roedd yn gyd-enillydd Gwobr Agored Gymdeithas Gelf Abergwaun yn 2018 a chafodd Ganmoliaeth Uchel yn Arddangosfa Agored Oriel Bevan Jones yng Ngwanwyn 2019.

Caiff ei gwaith ei arddangos mewn orielau drwy Gymru a Lloegr ac mae ei gwaith mewn nifer o gasgliadau preifat.

Gyda diddordeb brwd mewn bywyd gwyllt a’r byd naturiol nid yw’n syndod fod ei chorff mwyaf diweddar o waith yn canolbwyntio ar gefn gwlad, gan roi sylw arbennig i iaith weledol coed a gwrychoedd. Mae’n dal rhythm a dynameg byd natur yn ei phaentiadau ond mae hefyd iddynt ryw naws arall-fydol hudolus.

Cliciwch i weld gwaith Sarah