Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Astudiodd Katherine bensaerniaeth yn Ysgol Pensaerniaeth Cymru rhwng 2008 a 2015. Graddiodd gyda gradd BSc Dosbarth Cyntaf yn 2011, gradd Meistr mewn Pensaerniaeth yn 2013 a Diploma Proffesiynol yn 2015. Wedi cyfnod o fyw yn Llundain a tri mis yn teithio dychwelodd i fyw yng Nghaerdydd yn Awst 2016 gan ddatblygu ei gyrfa fel pensaer ac artist rhan amser.

Mae Katherine yn cynhyrchu lluniadau pensel, inc a dyfrlliw o dirluniau ac anifeiliaid. Mae ei holl waith wedi ei ddylanwadu gan amryw o diwylliannau a ffurfiau celf, mae wedi cyfuno rhain i greu arddull sydd yn unigryw a chyfoes. Mae’n darganfod harddwch, manylder a phatrwm lleoliadau cyfarwydd ac yn eu ail-ddehongli.

Cliciwch i weld gwaith Katherine