Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Ganed Judith Donaghy yn Frodsham, Swydd Gaer. Hyfforddodd fel dylunydd tecstilau cyn newid i gelfyddyd gain. Gan weithio'n bennaf mewn olew ar gynfas mae ei phaentiadau lled-haniaethol o arfordir, cefn gwlad a blodau yn adlewyrchu ei chariad at natur, lliw a gwead. Mae ei phaentiadau yn ymwneud â phynciau sy’n gyfarwydd ym mywyd bob dydd.

Mae Judith wedi arddangos ei gwaith mewn arddangosfeydd cymysg ac unigol ym Mhrydain Fawr a thramor. Cynrychiolir ei phaentiadau mewn orielau yng Nghymru a Lloegr yn ogystal a mewn casgliadau preifat.

Mae yn cynnal gweithdai cyllell balet o bryd i'w gilydd ac mae ganddi stiwdios yn Sir Gaer ac Ynys Môn, ger Rhosneigr, ble mae'n cymryd rhan mewn digwyddiad stiwdio agored blynyddol.

‘Mae fy nghariad at Ogledd Cymru, Ynys Môn yn arbennig, yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwaith. Mae’r traethau, y môr a’r awyr, y dirwedd arw - mor wahanol bob dydd a gyda’r golau’n newid yn gyson, fyddai byth yn blino ei archwilio ar gyfer fy mhaentiadau.’

Cliciwch yma i weld gwaith Judith