Mae celf wedi bod yn siwrnai sydd wedi parhau bron trwy fy mywyd, ond cymerodd bwysigrwydd newydd pan symudais i Gymru yn niwedd y 1970au.
Ers y symud hwnnw, rwyf wedi gweithio yn yr awyr agored yn bennaf, ac wedi teimlo cysylltiad llethol bron, nid yn unig â thirwedd fy ngwlad fabwysiedig, ond hefyd gyda'r iaith a'r diwylliant.
Mae 'Y daith yn fy nghalon' yn benllanw fy mhrofiadau a gyflwynir mewn paentiadau sy'n archwilio'r golau, gweadau a lliwiau sydd wedi dod i’m rhan ar hyd y ffordd.
Mae'r arddangosfa i weld yma yn y Plas o Fawrth 27ain i Mai 8ed.
Gwelwch y delweddau isod. I brynu ar lein, cliciwch yma
Cliciwch i weld maint llawn