Ganwyd Carys Bryn ar fferm Bryneura ym Mhen Llyn yn 1965. Graddiodd mewn printiadu yng Ngholeg Polytechnig Gogledd Staffordshire yn 1988. Ers hynny, mae wedi gwneud pob math o gomisiynau yn ymwneud â chelf, o ddarlunio llyfrau i beintio gwynebau! Mae hi'n fam i ddau ac yn athrawes gelf llawn amser yn Ysgol Uwchradd Pwllheli.
Mae'r gwaith yn arddangos cyflymdra a digymellrwydd ac mae'r dechneg yn ganlyniad uniongyrchol o brysurdeb. Ymresymiad y gwaith yw mwynhau lliw, creu marciau a gwead diddorol. Allan o'r mwynhad hyn ceir gwaith yn cyfleu bywyd cefn gwlad o amgylch Pen Llyn, o anifeiliad fferm i arwyddion ffyrdd. Mae ganddi frwdfrydedd unigryw sydd yn sicrhau gwaith newydd a chyffroes ymhob arddangosfa.
Mae wedi arddangos mewn amryw o Orielau yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys yr Albany yng Nghaerdydd, Oriel 'Artroom' yn Ne Wirral ac yn artist oriel yn y Plas.