Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Magwyd Billy Bagilhole mewn cartref yn llawn paentiadau a phrintiadau ei dad. Er panyn ifanc, bu yn creu lluniau o indiaid, anifeiliaid a ffigyrau crefyddol ynefelychu y delweddau a grëwyd gan ei dad. Maent yn parhau i’w swyno gan ei fod wedi colli ei dad pan oedd yn 6 oed yn 2001. Mae ei brofiad yn gapsiwl amser ogreadigrwydd sy’n dylanwadu ar ei waith. Mae’n dweud yn aml mai oherwydd ei dad y mae yn dyfal-barhau gyda celf a bod ei empathi tuag at greu mor gryf.

Mae Bagilhole yn gweithio yn bennaf trwy baentio a gwneud ffilmiau. Yn aml yngorchuddio ei ganfasau gyda halen a phaent trwchus, mae yn mwynhau y dechnegsy’n ymwneud a phaentio, trwy liw a llygad y lens. Mae’n gweithio yn aml trwyarwyddion mewnol ac arlliw o gynrhychiolaeth hiraethus o fywyd haniaethol. Ynaml yn gwrthdrawo lliw gyda delweddau o sinisteriaeth, teimla fod paentio yndod yn ddull mynegianol o ddealltwriaeth ac wrth adael y gwaith fel cwestiwnagored, yn fetaffor diarwybod, mae yn rhywbeth di-derfyn mewn celfyddyd.

Atyniad paentio i Bagilhole ydi y gallu i greu yr anhysbys, yr annychmygol, yr annearola chreu ymdeimlad o ddryswch. Gyda themâu dilynnol megis yr esgyrn pysgod awelir yn aml, ei gymeriad ‘Edwin’ neu y tarw, gallwn ddechrau gweld awgrym oberthynas rhwng y darnau gwahanol o ddelweddau. Mae Bagilhole yn credu ein bodyn chwilfrydig o hanfod a bod diddordeb mewn celf yn rhoi mynegiant i’r naturchwilfrydig yma. Mae creu celf yn gyfrwng i’r dychymyg, gan greu rhywbeth naallwn ei ddatrys ac sydd yn mynd a sylw yr artist ynghyd a’r sawl sydd yn edrych ar y gwaith.