Mae Plas Glyn-y-Weddw yn elusen sydd yn ddibynnol ar roddion caredig a chymorth gan gyfeillion er mwyn cadw’r drysau yn agored o flwyddyn i flwyddyn. Os ydi teftadaeth Pen Llŷn yn bwysig i chi, eich bod yn gwerthfawrogi gwaith ein Canolfan Gelf ac Amgueddfa, yn mwynhau y cyfle i weld ein arddangosfeydd, yn cael mwynhâd o wrando ar ddarlithoedd a sgyrsiau neu wylio perfformiadau yn y Plas a’r theatr awyr agored, yna mae gadael cymynrodd yn ffordd arbennig o helpu i sicrhau bod y wledd yma o brofiadau yn mynd i fod ar gael i’r cenedlaethau i ddod

Mae rhoddion a chymynroddion sy’n cael eu cyflwyno I Blas Glyn-y-Weddw yn rhydd o dreth etifeddiaeth, treth enillion cyfalaf a chyfranrediadau. O ganlyniad, beth bynnag fo gwerth eich rhodd bydd eich dymuniad yn cael ei wireddu yn ei gyfanrwydd heb ei leihau gan drethiant.

Gallwch adael cymynrodd inni o swm penodol. Mae rhai yn hoffi gohirio cymynrodd hyd marwolaeth priod. Mewn achosion priodol gall y rhodd fod yn gyfran o weddillion, a gallai sicrhau bod y rhodd yn cadw ei werth mewn termau go iawn neu yn gyfran deg o’ch ystad.

Teitl llawn a manylion yr elusen y dylid ei grybwyll pan yn trefnu unrhyw rodd ydi ‘Plas Glyn-y-Weddw Cyf. Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT; rhif elusen 1070495.’ Dylai pwy bynnag fo yn geirio manylion y rhodd fod yn ymwybodol o hyn.

Mae’n bosibl gwneud rhodd, ewyllys neu godisil heb gyngor cyfreithiol cyn belled a bod rheolau penodol yn cael eu dilyn, ond os ydi’r amgylchiadau yn gymhleth, yna argymhellir bod cyngor cyfreithiol yn cael ei fofyn. Am fwy o wybodaeth dylai eich cynghorydd cyfreithiol gysylltu gyda Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw.


Diolch yn fawr/Many thanks