Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae Karen Pearce wedi ei lleoli yn Aberystwyth ac wedi arddangos yn eang yng Nghymru a Lloegr ers 1987. Derbyniodd ei hyfforddiant celf ffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn 1998 gyda BA (anrh dosbarth 1af) a derbyniodd MA mewn Celfyddyd Gain yn 2003.

Mae’n gweithio ar ei harddangosfeydd a chomisiynau preifat yn ei stiwdio uwchben tref Aberystwyth gan weithio fel tiwtor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gweithio gyda grwpiau celf cymunedol amrywiol.

“Edefyn cyffredin sy'n rhedeg trwy fy ngwaith yw ffocws ar y golau a'i effaith ar y dirwedd. Byddaf yn aml yn peintio “en plein air” er pleser, oherwydd mae lle arbennig yn fy ysbrydoli, ac fel mae’n fan cychwyn ar gyfer cynfasau stiwdio mwy mewn acrylig.”

Datblygir paentiadau eraill gyda chyfryngau gwahanol - dyfrlliw neu gouache, pasteli, inc neu acrylig, wedi'u cyfuno â gweadau ac arwynebau amrywiol. Mae pob un yn dathlu ymdeimlad o le, cariad at yr elfennau, a diddordeb parhaus ym mhotensial mynegiannol paent. Mae ganddi hefyd ddiddordeb byw yn y modd y mae tirwedd yn cysylltu â phrofiad - y cysylltiadau sydd gennym â rhai lleoedd, neu ymdeimlad sy'n cael eu ysgogi gan amodau golau ac atmosffer. Mae’n ceisio cyfleu trwy baent y teimlad o fod yn rhywle arbennig.

Cliciwch yma i weld gwaith Karen