Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae fy mhaentiadau yn ymateb i’r llefydd dwi wedi ymweld â nhw a’r delweddau dwi’n eu cofio tra’n cerdded mewn ardaloedd led-led y byd o Ardal y Llynnoedd i’r Himalayas i Seland Newydd. Mae synnwyr o le a thir agored yn cael effaith arnaf, gan gynnwys dylanwad dyn ar y tirlun.

Mae lliw, tymer ac argraff sefyllfaoedd yn cael effaith arnaf. Mae marciau ac arwynebau yn yr amgylchfyd yn fy fan cychwyn i mi. Yr wyf yn gweithio yn sythweledol, mae rhai o’m mahentiadau yn cynnwys cyfeiriadau ffigurol cryf tram ae eraill yn abstract.

‘Dwi byth yn gwybod beth fydd y canlyniad ac ‘rwyf yn haenu paent ac yn ailweithio arwynebau, mae’n swnio yn wastraffus yn aml, ond dyma sut mae fy mhaentio yn datblygu. Tra’n gweithio ar sawl llun ar yr un adeg, ‘rwyf yn anelu at weithio yn ddigymhelliad ac anelaf at ymateb yn ddigymell.

‘Rwyf yn defnyddio gusso ar y canfasau cyn dechrau paentio erf y mod yn gweld paentio dyfrlliw yn syth ar bapur yn gyffrous ac awgrymiadol.

Mae’r artistiaid Peter Lanyon, Joan Eardley a Michael Porter yn ddylanwadau arnaf.