Darganfod Goleuni: Taith i Fyd Natur i Ddarganfod Fy Enaid
Yn parhau hyd 06.07.25
Cliciwch i weld yr arddangosfa
Mae Darganfod Goleuni yn dwyn ynghyd gyfres o ffotograffau atmosfferig o dirwedd Cymru, ynghyd ag ysgrifau personol ar fyd natur gan yr artist a’r awdur Brad Carr.
Mae’r casgliad yn plethu delwedd a gair ysgrifenedig ynghyd fel ymateb hynod bersonol i brofiadau Brad o dirluniau allanol a mewnol. Trwy’r darnau atgofus ac ethereal hyn, mae’n gwahodd y gynulleidfa i’w daith – un o drawsnewid a darganfod – gan gynnig cipolwg ar bŵer adferol bod ym myd natur.
Wedi’u disgrifio gan yr artist fel ‘hunanbortreadau’, mae’r ffotograffau’n cynrychioli ei gyflwr emosiynol ar adeg eu creu. Maent yn darparu golwg ar yr un pryd o'r byd mewnol ac allanol, gan symud rhwng golygfeydd eang o dirweddau gwyllt ac astudiaethau agos o goed hynafol a golygfeydd hudolus o goetir. Mae pob darn yn adrodd stori unigryw, gan ddal eiliadau o fyfyrio, o gysur ac o gysylltiad
Ar ôl codi camera am y tro cyntaf yn ôl yn 2018, mae Brad Carr wedi bod yn mireinio ei grefft yn dawel bach ac yn datblygu ei lais artistig. Mae celfyddyd ffotograffiaeth, iddo ef, yn arfer ysbrydol yn hytrach na hobi neu broffesiwn. Mae ei ffotograffau atgofus o dirwedd Cymru wedi’u trwytho ag arwyddocâd dwfn, gan ddal hanfod heddwch, llonyddwch, ac ymdeimlad dwys o berthyn. Mae’r delweddau hyn yn adlewyrchu taith bersonol Brad, gan atseinio â themâu iachâd ac ailddarganfod ar ôl llywio trwy brofiadau heriol o gam-drin domestig a thrais yn ei flynyddoedd ffurfiannol.
Sgwrs gyhoeddus gan yr artist Dydd Sadwrn 31 Mai - manylion i ddilyn.
Mae sampl o’i lyfr lluniau cyntaf ‘Finding Light’ yn cael ei arddangos gyda’r ffotograffau hyn, gyda dolen ar gyfer rhagarchebu. Gellir dod o hyd i ffilm ddogfen o’r enw The Visual Poetry of Brad Carr gan Murray Linvingstone i lawr y grisiau.
www.bradcarrphotography.co.uk