Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Mae Raef wrth ei fodd gyda golau cannwyll, mae’n teimlo bod ansawdd y golau a geir o fflam cannwyll yn gynnes ac yn rhoi sicrwydd mewn byd tywyll, a hynny er mai dim ond canfed rhan o fylb golau modern a roddir gan gannwyll.

Mae tanio y wic wedi bod yn ddefod fechan sy’n rhoi sicrwydd am filenia, dyna pam mae canhwyllau yn parhau i gael eu defnyddio heddiw i gynrhychioli eneidiau coll neu anwyliaid sydd wedi ein gadael, maent yn cynrhychioli atgof brau ond diriaethol sydd yn goleuo yr anwybod tywyll. Maent yn goleuo’r y ffordd ond hefyd cynhyrchu cysgodion sydd yn symud, wedi adrodd cyfoeth o straeon ac yn ôl pob tebyg wedi codi ofn y tywyllwch yn ein eneidiau.

Mae ei waith wedi ei greu o gerrig sydd wedi eu darganfod a’u chwarelyddu, copr, efydd, arian nicel, dur gwrth-staen, metel euro, arian ac yn y blaen. Mae pob cynllun yn dilyn thema ond yn unigryw.